Datblygiad dramatig newydd yn Abertawe
“Mae SA1 yn llwyddiant mawr – sy’n golygu bod Abertawe yn ennill ei phlwyf fel dinas Ewropeaidd o fri ar lan y dŵr.”
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Pan ofynnwch i bobl ym mha fath o le yr hoffent fyw, gweithio a threulio’u hamser hamdden, fel rheol mae eu hatebion yn cynnwys rhai o’r elfennau a ganlyn. Golygfa hardd. Llawer o awyr. Ar y dŵr neu ger y dŵr. Llecynnau glas dymunol. Rhywle mae pobl yn gofalu amdano. Mannau cymdeithasol. Ymdeimlad o gymuned. Mae’r rhain i gyd a mwy gan ardal SA1 Glannau Abertawe.
I ddechrau, mae’r datblygiad ar lan y dŵr. Dydi hynny ddim yn beth newydd; mae llawer o ardaloedd ar lan y dŵr a hen ardaloedd dociau yn ein dinasoedd wedi cael eu hadfywio dros y blynyddoedd diwethaf. Ond, yn aml, mae’r ardaloedd hyn braidd yn ynysig ac yn bell wrth weddill y dref. Maen nhw’n llefydd ar wahân, yn llefydd i fynd iddynt, nid yn llefydd a all ddatblygu’n ganolfannau bywiog, canolog.