

“Mae SA1 yn llewyrchus. Mae eisoes yn llwyddiant enfawr ac mae ’na lawer o ddatblygu ar y gweill i wneud y llwyddiant hyd yn oed yn fwy.”
Sonia Reynolds, Cyfarwyddwr Rhanbarth De-orllewin Cymru APADGOS ac AE&T, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rydyn ni wedi dod yn bell. Ac mae SA1 yn ffynnu.
Rydyn ni wedi gweld yn barod pa mor llwyddiannus yw SA1. Mae’r datblygiad cyntaf o fflatiau moethus wedi’u gwerthu’n llwyr ac mae busnesau o bwys wedi symud i swyddfeydd graenus. Mae bywyd nos SA1 yn tyfu gyda datblygiad caffis, bariau a bwytai.
Hyd yma, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi buddsoddi £50 miliwn yn SA1, a’r sector preifat wedi buddsoddi £150 miliwn. Nod SA1 yw cynnal rhyw 4000 o swyddi ac adeiladu dros 2000 o gartrefi newydd. Gyda dwy bont newydd i gerddwyr a beicwyr, ffordd gyswllt newydd Porth SA1 a’r cysylltiadau cyfleus â’r draffordd a meysydd awyr, mae SA1 yn estyniad cynaliadwy i Ganol Dinas Abertawe.
Gall pawb fanteisio ar y cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a busnes newydd a geir yn SA1. Dyna pam y mae SA1 yn enghraifft o’r arferion gorau wrth adfywio ardaloedd ar lan y dŵr ledled Ewrop.