datblygiadau.gif

  • GWESTY’R VILLAGE

    Agorwyd Gwesty’r Village ym mis Mawrth 2007 ac mae yno 116 o lofftydd, cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod. Yno hefyd, ceir bwyty, caffi, bar a Chlwb Iechyd a Hamdden gydag ystafell ffitrwydd, pwll, sba, sawna ac ystafell stêm.
  • LLYS Y LLONGWR

    Dewiswyd Cymdeithas Tai Abertawe i adeiladu datblygiad o gartrefi ymddeol. Mae’r cynllun yn cynnwys 79 uned mewn dau floc o 5 a 3 llawr, gyda buarth trawiadol yng nghanol y datblygiad. Mae Cymdeithas Tai Abertawe yn gweithio ar y safle a disgwylir y bydd y datblygiad wedi’i gwblhau erbyn canol 2008.
  • CANOLFAN GYFEIRIO DDEINTYDDOL

    Parkway Gould LLP sy’n gweithio ar y Ganolfan Gyfeirio Ddeintyddol 38,000 troedfedd sgwâr. Bydd y cynllun yn cynnwys lle parcio o dan y ddaear a swyddfeydd ar y lloriau uchaf.
  • TAI FFORDDIADWY

    Mae Grŵp Gwalia ar y safle yn datblygu’r cynllun Tai Fforddiadwy ardderchog hwn. Bydd y datblygiad yn cynnwys 54 o Dai Fforddiadwy gyda lle i barcio o dan y ddaear a buarth dymunol. Disgwylir y bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau tua chanol 2008.
  • EGLWYS GYMUNEDOL Y GLANNAU

    Tua dechrau 2006, symudodd Eglwys Apostolaidd Abertawe o’i safle yng nghanol y ddinas i’r adeilad pwrpasol modern hwn yn ardal SA1 Glannau Abertawe. Mae’r adeilad hardd a deinamig 6000 tr sgwâr yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau’r Eglwys ac mae’n cynnwys bar byrbrydau. Bu’r Eglwys yn weithgar yn Abertawe ers y 1920au a bu ganddynt adeilad yn Heol y Santes Helen. Mae angen lle newydd arnynt gan fod y gynulleidfa’n tyfu a’u bod am ddwyn holl weithgareddau’r Eglwys ynghyd mewn ffordd fwy effeithlon.
  • DATBLYGIAD PRESWYL SGWÂR YR HARBWR

    Dewiswyd datblygwyr o Dde Corea o’r enw CoDA i weithio ar y datblygiad preswyl trawiadol hwn. Dyma’u menter gyntaf yn y DU. Mae’r cynllun wedi’i rannu i ddau adeilad a bydd yn cynnwys 424 uned breswyl, 7 uned adwerthu ar y llawr daear a maes parcio tanddaearol. Defnyddir y dechnoleg gynaliadwy ddiweddaraf yn y datblygiad, yn cynnwys bwyler biomás a system i gasglu dŵr glaw.
  • SWYDDFEYDD ELÍPS

    Dewiswyd Babcock and Brown i symud ymlaen â bloc swyddfeydd 55,000 tr sgwâr yr Elíps wrth y Porth i safle SA1 Glannau Abertawe. Mae i’r datblygiad hwn bensaernïaeth arloesol, unedau o wahanol feintiau a maes parcio tanddaearol.
  • SWYDDFEYDD LANGDON HOUSE

    Mae Broadhall Hampton Ltd ar y safle i godi’r swyddfeydd modern trawiadol hyn ar Heol Langdon. Yn y datblygiad 4 llawr, 45,000 tr sgwâr, ceir lle ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu Maint. Mae mewn lle canolog a bydd digon o le i barcio o dan y ddaear.
  • CEI’R DE

    Cafodd Quest Homes ganiatâd cynllunio i adeiladu ail ran datblygiad fflatiau Glannau Abertawe SA1. Byddant yn amrywio o rai saith llawr i rai 11 llawr. Byddant yn cynnwys unedau 1 llofft a dwy lofft a phentai moethus.  Disgwylir i'r gwaith ar y datblygiad gael ei gwblhau erbyn yr Hydref 2010.
  • ALTAMAR

    Mae Bellway Homes wedi datblygu fflatiau amrywiol, rhwng 5 a 9 llawr. Ceir yno unedau un, dwy a thair llofft a phentai moethus. Cwblhawyd yr adeilad ym mis Chwefror 2006.
  • MORGAN COLE

    Cwmni cyfreithwyr Morgan Cole oedd y busnes cyntaf i symud i SA1 Glannau Abertawe.  Cafodd adeilad pwrpasol ei ddylunio a’i ddatblygu i fodloni eu gofynion neilltuol nhw. Mae’n mesur 2,787 metr sgwâr (30,000 tr sgwâr) ac mae mewn lle ardderchog ar lan Afon Tawe yn edrych dros yr Ardal Forwrol.
  • CYPRIUM

    Admiral Insurance sydd yn yr adeilad trawiadol hwn â’r wyneb gwydr crwm. Ceir yma 80,000 tr sgwâr o swyddfeydd wedi’u haer-dymheru. Codwyd estyniad i’r adeilad ym mis Tachwedd 2006 ac mae yma faes parcio tanddaearol.
  • YR EGLWYS NORWYAIDD

    Cafodd yr Eglwys Norwyaidd hon ei chodi’n wreiddiol yn Nociau Casnewydd a’i symud i Abertawe ym 1910. Mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn cynnwys Cenhadaeth i Forwyr yn y pen gorllewinol ac eglwys Gothig yn y pen dwyreiniol. Codwyd sgaffaldau o gwmpas yr eglwys a’i thynnu i lawr yn ofalus er mwyn ei hadfer a’i symud i ganol y datblygiad ger dau adeilad hanesyddol arall – y J Shed o frics coch a’r Ffatri Rew, er mwyn cadw peth o gymeriad hen Ddociau Abertawe.
  • J SHED

    Hen storfa rawn a godwyd tua 1895 yw’r J Shed. Mae’r adeilad mawr, brics coch, to llechi, yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae’n mesur 3,068 metr sgwâr (33,022 tr sgwâr) dros ddau lawr ac mae’r safle’n mesur 0.29 ha (0.72 erw). Mae’r adeilad mewn lle amlwg yn edrych dros y doc. Cafodd y J Shed ei adnewyddu’n llwyr i gynnwys bwyty, lle trin gwallt, arcêd gelfyddyd ac 20 o unedau “byw a gweithio” dyblyg yn null Efrog Newydd ar y lloriau uchaf sy’n golygu bod bywyd yn yr adeilad 24 awr y dydd.
  • DATBLYGIAD PRESWYL YR ANGORFEYDD

    Mae Howard & Palmer (SA1) Ltd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer 91 o unedau un, dwy a thair llofft yn edrych lawr dros Afon Tawe yn SA1 Glannau Abertawe. Bydd lle i barcio o dan yr adeilad a bydd caffi/bwyty ar wahân ar Sgwâr y Ffatri Rew. Disgwylir y bydd y datblygiad wedi’i gwblhau erbyn canol 2009.
  • Y FFATRI REW

    Mae’r Ffatri Rew a’i simne amlwg yn adeilad rhestredig Gradd II hardd a godwyd yn wreiddiol tua 1880 i gynhyrchu rhew a defnyddiau storio’n oer ar gyfer y llongau. Ceir swyddfeydd a fflatiau ar y tri llawr.

    Mae'r adeilad ar lan ddwyreiniol Afon Tawe rhwng y Technium a Phont yr Hwyl.  Prynwyd y Ffatri Rew gan Landas Ltd.  Cafodd y contractau eu cyfnewid ym mis Gorffennaf 2005.  Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys galeri / bar gwin, bwyty Thai a chwe fflat byw / gweithio.

  • TECHNIUM

    Technium Abertawe – mae’r adeilad trawiadol hwn yn natblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe, de orllewin Cymru, yn edrych dros Ardal Forwrol ddeniadol y ddinas. Hwn oedd yr adeilad Technium cyntaf i gael ei godi. Cafodd ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Cymru Abertawe. Ceir 14 uned ddeor ar gyfer busnesau gwybodaeth mewn nifer o sectorau fel TGCh, meddalwedd, aml-gyfrwng, electroneg a pheirianneg yn y Technium sydd ag arwynebedd llawr o 2,000 metr sgwâr.
  • TECHNIUM2

    Technium Abertawe – lle ychwanegol at y Technium gwreiddiol yn natblygiad SA1 Glannau Abertawe. Cynlluniwyd yr unedau i ateb gofynion cwmnïau sy’n tyfu allan o brif adeilad Technium Abertawe ac i gynnwys rhagor o fusnesau yn y sector gwybodaeth.
  • PROSIECTAU ETHOS

    Mae’r Prosiectau Ethos yn dod ymlaen yn dda. Ceir yma ddatblygiad swyddfa 50,000 troedfedd sgwâr ar gyfer busnesau newydd yn y sector gwybodaeth mewn lle da ar lan Afon Tawe. Mae’r datblygiad wrthi’n cael ei adeiladu a bydd yn cynnwys maes parcio dau lawr o dan yr adeilad.
  • PONT YR HWYL

    Mae Pont yr Hwyl yn un o ddwy bont newydd ar gyfer cerddwyr a seiclwyr sy’n rhan hanfodol o’r strategaeth i gysylltu datblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe a’r Ardal Forwrol bresennol a chanol y ddinas. Mae’r bont yn 142 metr o hyd, mae’n pwyso 292 tunnell fetrig i gyd ac mae iddi hwylbren enfawr 40 metr. Y pier canolog, a suddwyd yn ddwfn i wely’r afon, sy’n angori’r hwylbren. Mae’r ffordd y mae’r bont yn llifo, â’i dec crwm, y mast canolog ar oleddf, a’r ceblau’n ymledu ohono, yn ei gwneud yn debyg i gwch hwylio. Cynlluniwyd y bont gan Wilkinson Eyre Architects a’r Flint & Neill Partnership, sy’n benseiri o fri rhyngwladol. Roedd Wilkinson Eyre yn rhan o dîm dylunio pont enwog y ‘llygad yn wincio’ yn Gateshead a nhw sydd wedi dylunio Amgueddfa Genedlaethol newydd y Glannau yn yr Ardal Forwrol gerllaw. Enillodd Pont yr Hwyl y wobr gyntaf yn nosbarthiadau’r Gwelliant Pensaernïol a’r Prosiectau Gwerth Dros £0.5 miliwn yng ngornest Gwobrau Dylunio Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe.
 
Gwybodaeth am ymwrthodiad SA1 Glannau Abertawe