

"Mae rhyw hyder heintus yn SA1 sy’n denu pobl ar gyfer gwaith a hamdden. Mae golwg a diwylliant yr ardal yn fodern, yn gyffrous ac yn ysbrydoledig ac mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â delwedd La Parrilla.”
Daniel Tercero, La Parilla
Yn SA1, ceir cyfleusterau gwych ar gyfer busnesau bach a mawr o wahanol sectorau.
Eisoes, ceir busnesau amrywiol fel Aveda Salon & Spa, cwmni cyfreithwyr Morgan Cole a bwyty La Parrilla yn SA1. Ac mae ‘na swyddfeydd rhagorol ar gael ar gyfer eich busnes chi. Gall Technium Abertawe 1 a 2 helpu cwmnïau technoleg wireddu eu potensial i dyfu yn y tymor hir. Mae’r canolfannau deor yn cynnig swyddfeydd amrywiol a’r posibilrwydd o ychwanegu atynt, ynghyd â chyfleusterau technegol, cyfleoedd i gydweithio ag academyddion a chymorth busnes.
Mae prosiect y Technium eisoes yn llwyddiannus iawn ac mae grŵp o gwmnïau sector preifat sy’n rhan o’r Technium wedi buddsoddi yn eu cyfleusterau deor nhw eu hunain: Ethos. Mae hyn yn golygu y gall y cwmnïau hyn ac eraill dyfu eto mewn datblygiad pwrpasol â swyddfeydd sy’n ateb eu gofynion neilltuol nhw.
Ceir swyddfeydd gradd A yn SA1 hefyd:
Admiral House, datblygiad trawiadol tri llawr o safon uchel sydd wedi’i osod ar brydles i Admiral Insurance; a datblygiad swyddfeydd Elíps sydd â digon o le ar gyfer tua 400 o bobl. Gan fod cyfleusterau cynadledda a lle i aros yng Ngwesty’r Village, cysylltiad band eang soffistigedig, a bariau a bwytai prysur ar y safle, mae SA1 yn ganolfan fusnes gyda’r gorau.