
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu chi i gael gafael ar y wybodaeth yn y wefan yma. I gael gwybodaeth fwy manwl am yr offer sydd ar gael ar eich porwr i'ch helpu i fynd i mewn, edrychwch ar y wybodaeth oedd yn dod gyda'ch system weithredu. Neu fe allwch chi ddefnyddio'r botwm 'Help' ar ddewislen eich porwr.
1. Cynyddu maint y ffont neu newid y teip i'w wneud yn fwy amlwg
2. Newid lliwiau tudalen i'w gwneud yn fwy amlwg
3. Bocs amlygu
4. Defnyddio'r Bysyllfwrdd
5. Alt Tags
6. Addasu'ch bar offer
1.Cynyddu maint y ffont neu newid y teip i'w wneud yn fwy amlwg
I wneud i destun ymddangos yn fwy cliciwch ar 'View', pwyntiwch at faint y testun ac yna dewiswch y maint yr hoffech chi'i gael. I ddangos testun mewn ffont gwahanol, cliciwch ar 'Internet Options' ar y ddewislen 'Tools'. Ar y tab 'General', Cliciwch ar 'Fonts'. Yn y rhestrau 'Web page font' a 'Plain text font', cliciwch ar y ffontiau yr hoffech chi'u cael.
2. Newid lliwiau tudalen i'w gwneud yn fwy amlwg
I newid sut mae lliwiau tudalen yn cael eu dangos, ewch i 'Tools' yn Internet Explorer, cliciwch ar 'Internet Options'. Ar y tab 'General', cliciwch ar 'Colours'. Newidiwch y gosodiadau fel yr ydych yn dymuno. Os ydych eisiau pennu pa osodiadau ffont a lliw i'w defnyddio heb orfod newid y gosodidau ar wefannau neu dudalennau unigol, yna dewiswch 'Tools', 'Internet Options'. Ar y tab 'General', cliciwch ar 'Accessibility'. Gallwch chi wedyn newid y gosodiadau fel y bo angen.
3. Bocs amlygu.
Wrth i chi symud at gyswllt neu ddarlun, a chlicio arno, mae border main yn ymddangos o'i amgylch fel eich bod yn gallu gweld beth sydd wedi'i ddewis.
4. Defnyddio'r Bysyllfwrdd
Os ydych yn cael trafferth defnyddio llygoden neu ei bod yn well gennych chwilio drwy ddefnyddio'ch bysellfwrdd, yna defnyddiwch y botwm help ar eich bar offer i ddod o hyd i restr o ffyrdd cyflym o ddefnyddio'r bysellfwrdd. Gydag Internet Explorer er enghraifft, fe allwch chi bwyso TAB a SHIFT + TAB i symud ymlaen ac yn ol rhwng elfennau o'r sgrin fel cysylltiadau, mannau poeth ar fapiau llun, y ddewislen.
5. Alt Tags.
Mae gan bob delwedd a chyswllt ar y wefan Alt Tags ynghlwm wrthyn nhw. Cynrychioliad o'r hyn y mae'r ddelwedd neu'r cyswllt yn ei bortreadu yw'r rhain. Fe ddylen nhw'ch helpu chi i ddeall y wybodaeth sydd ar gael, ac i fynd drwy'r wefan yn hawdd.
6. Addasu'ch bar offer.
Fe allwch chi addasu'r bar offer trwy ychwanegu neu gael gwared ar fotymau, trwy ddefnyddio eiconau bach neu fawr, a thrwy ddangos neu guddio'r testun ar y labeli. Dim ond clicio a'r botwm dde ar y bar offer ac yna dewis 'Customise'.
Os yw'ch golwg yn wael, fe allech chi ychwanegu'r botwm Size i gael mynd at y maint ffont mwy yn gyflym.
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, fe allech chi ddewis Small Icons yn y rhestr Icon Options a No text labels yn y Text Options i wneud y gorau o'r gofod sgrin sydd ar gael ar gyfer cynnwys y We.