SA1 Polisi Preifatrwydd

Rydym yn casglu data gennych chi (i) pan fyddwch yn cofrestru eich manylion ar y Safle (ee fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch, nawr neu yn y dyfodol) a (ii) gyda dyfeisiadau canfod data yn defnyddio cookies. Efallai y bydd y data a gasglwn yn ddata personol ac fe allai gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad eich cartref. Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn hefyd am rif ffôn fel y gallwn gysylltu â chi os oes problem. Mae'n ofyniad arnom ni gan Dollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi i storio a chasglu gwybodaeth am ym mha wlad yr ydych chi'n byw. Trwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn cytuno i gasgliad, storio a phrosesu gwybodaeth fel yr amlinellir yn yr Amodau Defnydd.

Rydym yn defnyddio cookies ar y Safle ond nid ydym yn ddibynnol arnynt. Fe allwch ddiffodd ein cookies ar eich cyfrifiadur. Nid ydym yn defnyddio manylion sy'n ymwneud â chyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) eich cyfrifiadur er mwyn gweinyddu y Safle nac yn dilyn trywydd defnyddwyr trwy'r Safle. Rydym, serch hynny, yn cofnodi gwybodaeth yn ymwneud â defnydd o'r Safle ar ein system fewnol ein hunain. Fe ddefnyddir yr wybodaeth yma er mwyn i ni gael gweinyddu'r Safle, cywiro gwallau a chadw manylion defnyddiwr sydd wedi ychwanegu at neu addasu gwybodaeth mewn archif benodol yn unig. Hefyd, fe allwn ddefnyddio'r wybodaeth i gysylltu â chi mewn achos o argyfwng.

Rydym yn cadw hysbysiadau dilys dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid ydym yn rhannu, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth gydag nac i unrhyw unigolyn, cwmni neu sefydliad arall mewn unrhyw fodd ond am fel a ddatgenir ar y pwynt ble y cesglir yr wybodaeth. Mae gennych yr hawl i 'eithrio' eich hun o ddefnyddio eich gwybodaeth i berwyl nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Safle yn y man ble byddwn yn gofyn i chi am yr wybodaeth. Os nad ydych wedi 'eithrio' fe allwch newid eich meddwl wedi hynny [trwy addasu eich proffil personol gan ddefnyddio'r cyfleusterau a amlinellir ar y Safle. Fe allech ddefnyddio'r cyfleusterau hyn i newid eich gwybodaeth bersonol.]

Rydym yn gwneud pob ymdrech i amddiffyn eich gwybodaeth. Dim ond y rhai hynny o'n gweithwyr sydd wirioneddol angen mynediad iddo i gwblhau eu swydd sy'n ei dderbyn. Mae ein trefniadau diogelwch ar gyfer storio a datgelu manylion cwsmeriaid yn cydymffurfio i anghenion Deddf Diogelu Data 1998. Ble bydd y Safle yn cynnwys dolen gyswllt i wefannau eraill, fe ddylid nodi nad ydym yn gyfrifol am bolisi cyfrinachedd perchnogion a gweithredwyr a safleoedd hyn. Rydym yn eich annog felly i ddarllen datganiadau a pholisïau cyfrinachedd pob safle ble gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol.

Gwybodaeth am ymwrthodiad SA1 Glannau Abertawe