newyddion.gif

.

Dros y pum mlynedd diwethaf, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cymunedol a chyhoeddus o fri yn SA1.

Yn 2003, daeth cystadleuwyr o bedwar ban byd i ornest Triathlon Mawr Cymru yn SA1 a oedd yn rownd gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd 2004. Roedd rhaid i’r cystadleuwyr nofio trwy afon Tawe, seiclo ar hyd strydoedd Abertawe a rhedeg o gwmpas SA1 a thros Bont yr Hwyl i’r llinell derfyn.

Achlysur cymunedol cyntaf SA1 yn 2004 oedd agoriad swyddogol Pont yr Hwyl. Mae’r bont drawiadol hon yn gysylltiad uniongyrchol rhwng Canol y Ddinas ag SA1 i gerddwyr a seiclwyr. I ddechrau, daeth Siôn Corn ar hyd afon Tawe mewn cwch cyflym i gael ei groesawu gan bobl oedd yn sefyll ar hyd ochr y bont. Ar ddiwedd y noson, cafwyd arddangosfa dân gwyllt i oleuo Bae Abertawe.

Yn 2005, lansiwyd partneriaeth GSP mewn strafagansa Nadolig. Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn flaenorol, croesawyd Siôn Corn yn ôl ar ei gwch cyflym a chafwyd cyfle i fwynhau ar y rinc sglefrio ac yn y ffair ac i ryfeddu at ddawn y stiltwyr. Uchafbwynt y noson oedd y cyfle i glywed plant o ysgolion yr ardal yn canu carolau.

Dewiswyd thema forwrol gan dîm SA1 wrth lansio’r porth newydd yn 2006. I ddechrau, cafwyd gorymdaith yng ngolau llusernau gan blant ac oedolion y bum rhan o Abertawe ac yna bu môr-ladron yn ymladd ar long yn Noc Tywysog Cymru. Daeth y noson i ben gydag arddangosfa ddramatig o dân gwyllt dros ddŵr y doc.

Rali Cymru Prydain Fawr
Yn 2007 a 2008, roedd SA1 yn ganolbwynt i Bencampwriaeth Rali’r Byd.

Roedd gyrwyr rali gorau'r byd yn y digwyddiad proffil uchel hwn i gystadlu yn Rali Cymru Prydain Fawr.

Dewisodd trefnwyr y Rali, International Motor Sports Ltd, SA1 ar gyfer y Parc Gwasanaethu gan fod y safle yn agos at ganol y ddinas a bod ei leoliad wrth ochr y dŵr mor brydferth. Mae SA1 yn cynnig mawredd i’r digwyddiad safon byd eang hwn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.walesrallygb.com

 




 

Gwybodaeth am ymwrthodiad SA1 Glannau Abertawe