

"Mae ein staff yn dal i ryfeddu wrth weld pa mor gyflym y mae SA1 yn datblygu. Mae SA1 yn lle gwych i fod ynddo!”
Huw Llewellyn, Rheolwr Cyfleusterau’r Grŵp, Admiral Insurance
SA1 yn lle bywiog, llawn steil.
Holwch unrhyw un yn SA1 am yr awyrgylch ac fe ddywedan nhw: mae’n fyrlymus. Yr hyn sy’n gwneud SA1 mor fywiog a gwahanol yw’r amrywiaeth a geir yno a’r ffaith ei fod mor agos at ganol y ddinas – gallwch gerdded mewn 9 munud.
Mae SA1 a’i swyddfeydd, cartrefi, bariau a bwytai prysur, a’r ardal hamdden arfaethedig, yn lle gwych i weithio, byw ac ymlacio.
Mae dros fil o bobl y dydd yn mwynhau ffordd o fyw SA1 – a gallwch chithau wneud hynny hefyd. Ceir yma gyfleoedd gwych – ymunwch yn y mwynhad