bywyd.gif

 

Bywyd yn Abertawe a Phenrhyn Gŵyr

Holwch unrhyw un am yr awyrgylch yn Abertawe ac fe ddywedan nhw – mae’n fyrlymus. Ond does dim rhaid i chi fynd yn bell i ddianc o fwrlwm y dref a mwynhau llonyddwch arfordir a chefn gwlad Penrhyn Gŵyr. Dewch i fwynhau’r cyfuniad arbennig hwn.

Harddwch naturiol ac awyr iach

Mae arfordir Penrhyn Gŵyr gyda’r harddaf yn Ewrop os nad yn y byd. Mae yma filltir ar ôl milltir o draethau glân a llwybr yr arfordir i’w crwydro, a’r môr i bysgota ynddo – a chofiwch ymweld â phentref dymunol y Mwmbwls.

I’r rhai anturus yn eich plith, mae yma gyfleoedd di-ri i ddringo, seiclo, a hwylio o farina Abertawe.

Siopa a bywyd nos

Os mai cymdeithasu sy’n mynd â’ch bryd, byddwch wrth eich bodd yn Abertawe – ceir dewis ardderchog o fariau, tafarndai a chlybiau ar hyd Wind Street, ac mae casino newydd Aspers yn lle poblogaidd. Gallwch ddewis o blith nifer fawr o dai bwyta o safon hefyd, yn enwedig yn SA1, lle ceir amryw o fariau caffi.

Does dim rhaid i chi fod yn segur yn y dydd chwaith, mae’r ganolfan siopa’n tyfu’n gyflym ac yn cynnwys y siopau cadwyn mawr a nifer o siopau bach lleol, annibynnol, hyfryd.

Chwaraeon a diwylliant

Bydd Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yn croesawu achlysuron rhyngwladol ym myd chwaraeon cyn hir ac yma mae’r Pwll Nofio Cenedlaethol newydd. Cynhelir Rali Cymru Prydain Fawr ac Escape in the Park yma ac, yn 2010, bydd cystadleuaeth Cwpan Ryder Cymru’n digwydd i lawr yr M4. Mae clwb pêl droed Dinas Abertawe a chlwb rygbi’r Gweilch yn denu llawer o gefnogwyr hefyd.

Mae i’r ardal hanes diwylliannol nodedig hefyd. Cewch ddilyn ôl troed un o feirdd gorau’r 20fed ganrif, Dylan Thomas; ymweld â’r Brifysgol ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, neu grwydro Gerddi Clyne.

Mae yna ddigon o lefydd aros o bob math yn yr ardal, felly dewch i gael blas ar fywyd Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Yr Eglwys Norwyaidd

Yr Eglwys Norwyaidd yn SA1, adeilad rhestredig gradd II sy’n gartref i Oriel Gemwaith Modern Palterman and Thomas

Gwybodaeth am ymwrthodiad SA1 Glannau Abertawe