Hyd yma, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi £50m yn SA1, ac mae’r sector preifat wedi buddsoddi £150m. Disgwylir y buddsoddir £400m o gyllid o’r sector preifat yn y 40 hectar o gwmpas safle 11 hectar y marina 500 angorfa y bwriedir ei sefydlu. Mae buddsoddiad fel hyn yn golygu bod cyfleoedd enfawr i fusnesau yn yr ardal i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r datblygiad.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae menter gyflenwi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyflenwi SA1, wedi helpu i fanteisio i’r eithaf ar y datblygiad cyffrous hwn.
Mae busnesau’r de orllewin wedi elwa o’r cyfle i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r datblygiad. Mae datblygwyr wedi ymroi i ddefnyddio cyflenwyr lleol a’r dasg o’u blaen yw i barhau i sicrhau bod datblygwyr, contractwyr, busnesau a chyflenwyr lleol yn cydweithio er budd pawb ohonynt.
Nod cyffredinol Cyflenwi SA1 yw sicrhau digon o gyfleoedd i gyflenwyr lleol gyfrannu at y datblygiad. Yn ogystal, mae’r prosiect am gydweithio â chyflenwyr lleol i hybu cyfleoedd ac i gynnig cyngor am eu gofynion ac am y cymorth sydd ar gael o’r sector cyhoeddus. Hyd yma, mae busnesau lleol wedi ennill contractau gwerth £32m gyda chymorth y fenter gyflenwi hon.
I ddechrau, roedd y cyfleoedd yn codi o’r gwaith adeiladu a pharatoi’r tir ond wrth i’r prosiect ddatblygu, mae cyfleoedd newydd yn codi i gyflenwi pethau fel dodrefn, ffitiadau, gwasanaethau a nwyddau traul.
Ceir rhagor o wybodaeth gan:
Kate Mizen, Rheolwr Datblygu Busnes
01792 224520
kate.mizen@wales.gsi.gov.uk