cymuned.gif

“Mae SA1 yn cael effaith ardderchog ar y gymuned leol. Mae partneriaeth GSP ac SA1 wedi gweithio’n wirioneddol dda gyda’i gilydd ac maent wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau o bwys fel agoriad swyddogol Porth SA1!”

Lee Hawthorne, Partneriaeth GSP

Un o gryfderau mwyaf SA1 yw’r ymdeimlad o gymuned sydd yma. O’r dechrau’n deg, mae SA1 a’r gymuned leol wedi cydweithio i ddatblygu ardal glan y dŵr a’i gwella er budd pawb.

Mae gan SA1 gymaint i’w gynnig i Grenfell Park, St Thomas, Port Tennant, a’r cymunedau y tu hwnt iddynt.

Daw SA1 â llecynnau agored cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol newydd a gwell, cyfleusterau hamdden gwych i deuluoedd, a swyddi newydd i’r ardal.

Mae SA1 wedi rhoi cymorth ariannol i ddod â chyfleusterau addysg newydd i ardal GSP; bydd ward St Thomas i gyd yn elwa’n gymdeithasol ac yn economaidd oo’r ysgol gymunedol newydd.

I gael gwybod mwy am Bartneriaeth GSP, ewch i www.gsppartnership.org.uk

 
Gwybodaeth am ymwrthodiad SA1 Glannau Abertawe