BEICIO |
CERDDED |
BWS |
RHANNU CAR |
![]() |
Mae teithio cynaliadwy yn dda i’r amgylchedd ac yn dda i bob un ohonom ni hefyd. Mae’n golygu llai o lygredd, llai o niwed i’r amgylchedd a llai o dagfeydd traffig gan arwain at iechyd gwell, gwell ansawdd aer, ffyrdd mwy diogel, llai o straen ac yn aml iawn siwrneiau cyflymach hefyd.
A oeddech chi’n gwybod?
Mae beicio neu gerdded yn dda i’ch iechyd, i’ch poced ac i’r amgylchedd.
Mae beicio a cherdded yn costio bron dim
Maen nhw’n llosgi hyd at 300 calori yr awr
Drwy deithio fel hyn, byddwch chi’n cael ymarfer corff bob dydd
Mae’n lleihau llygredd a thagfeydd traffig
Gallwch chi deithio o gwmpas y dre/y ddinas yn gyflymach ar feic
Mae trafnidaeth gyhoeddus yn rhatach, yn wyrddach ac yn fwy diogel na theithio mewn car
Mae tocynnau tymor yn costio llai na gyrru
Cewch gyfle i ddarllen, sgwrsio, hepian neu weithio
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy diogel na gyrru
Mae mwy o deithwyr yn golygu mwy o wasanaethau
Gallai teithio unwaith yr wythnos ar drafnidiaeth gyhoeddus olygu hyd at 20% yn llai o geir ar y ffordd
Drwy rannu car, gallwch wneud ffrindiau, arbed arian a lleihau eich ôl-troed carbon. Byddwch yn.
Hanneru eich costau parcio, petrol a dibrisiant
Lleihau’r llygredd sy’n dod o geir drwy deithio gyda’ch gilydd
Rhannu’r straen o yrru
Gallu siarad â rhywun
Cyrraedd pen y daith yn gyflymach gan fod llai o geir ar y ffordd
A chofiwch fod gadael y car gartref yn golygu nad oes rhaid chwilio am le parcio chwaith!
